Cysylltu â GOV.UK One Login

Cyn i chi gysylltu â ni

Darllenwch ein canllaw os ydych yn cael problem gyda:

Os ydych yn cael trafferth defnyddio GOV.UK One Login ar eich pen eich hun, gallwch gael help gan rywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddynt. Darganfyddwch beth gall ac na all y person sy'n eich helpu ei wneud.


Pan fyddwch yn cysylltu â ni

Os ydych yn ffonio neu'n defnyddio gwe-sgwrs i gysylltu â'r tîm GOV.UK One Login, gofynnir i chi am god cyfeirinod.

Mae'r cod hwn yn ein helpu i weld lle y gallech fod yn cael problem.

Eich cod cyfeirnod yw: 191128


Ffyrdd o gysylltu â ni

Gwe-sgwrs

Cael help gan gynorthwyydd digidol GOV.UK One Login neu sgwrsio gydag aelod o'r tîm cymorth.

Efallai y gofynnir i chi am eich cod cyfeirio pan fyddwch yn siarad â ni.

Gallwch sgwrsio'n fyw gyda'n tîm cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm.

Mae'r cynorthwyydd digidol bob amser ar gael.

Nid yw ein gwe-sgwrs yn gwbl hygyrch eto — rydym yn gweithio i’w wella. Gallwch ddarganfod mwy am y cyfyngiadau a sut rydym yn eu cywiro.

Ffôn

Byddwch angen eich cod cyfeirnod pan fyddwch yn ffonio.

O'r DU:
0300 373 9020

Y tu allan i'r DU:
+44 208 629 0008

Gallwch ein ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm.

Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

E-bost

Cwblhewch y ffurflen gyswllt i ofyn am help.

Byddwn yn ateb drwy e-bost o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Byddwn yn ymateb yn ystod oriau swyddfa:
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 5:30pm


Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

I ddarganfod pa wybodaeth rydym yn ei gadw pan fyddwch yn cysylltu â ni a sut rydym yn ei defnyddio, gweler hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login