Cysylltu â GOV.UK One Login
Cyn i chi gysylltu â ni
Darllenwch ein canllaw os ydych yn cael problem gyda:
- Defnyddio'r ap GOV.UK ID Check app
- Cysylltu'r ap GOV.UK ID Check i GOV.UK
- Profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login drwy ateb cwestiynau diogelwch
- Newid y manylion mewngofnodi ar gyfer eich GOV.UK One Login
- Cael cod diogelwch ar gyfer GOV.UK One Login
- Dileu eich GOV.UK One Login
- E-bost, neges destun neu alwad ffôn annisgwyl am eich GOV.UK One Login
Os ydych yn cael trafferth defnyddio GOV.UK One Login ar eich pen eich hun, gallwch gael help gan rywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddynt. Darganfyddwch beth gall ac na all y person sy'n eich helpu ei wneud.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni
Os ydych yn ffonio neu'n defnyddio gwe-sgwrs i gysylltu â'r tîm GOV.UK One Login, gofynnir i chi am god cyfeirinod.
Mae'r cod hwn yn ein helpu i weld lle y gallech fod yn cael problem.
Eich cod cyfeirnod yw: 473504
Ffyrdd o gysylltu â ni
Gwe-sgwrs
Cael help gan gynorthwyydd digidol GOV.UK One Login neu sgwrsio gydag aelod o'r tîm cymorth.
Efallai y gofynnir i chi am eich cod cyfeirio pan fyddwch yn siarad â ni.
Gallwch sgwrsio'n fyw gyda'n tîm cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm amser y DU.
Mae'r cynorthwyydd digidol bob amser ar gael.
Nid yw ein gwe-sgwrs yn gwbl hygyrch eto — rydym yn gweithio i’w wella. Gallwch ddarganfod mwy am y cyfyngiadau a sut rydym yn eu cywiro.
Ffôn
Byddwch angen eich cod cyfeirnod pan fyddwch yn ffonio.
O'r DU:
0300 373 9020
Y tu allan i'r DU:
+44 208 629 0008
Gallwch ein ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm amser y DU.
E-bost
Cwblhewch y ffurflen gyswllt i ofyn am help.
Byddwn yn ateb drwy e-bost o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Byddwn yn ymateb yn ystod oriau swyddfa:
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 5:30pm amser y DU
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
I ddarganfod pa wybodaeth rydym yn ei gadw pan fyddwch yn cysylltu â ni a sut rydym yn ei defnyddio, gweler hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login